Joshua 16

Y tir gafodd disgynyddion Joseff

1Roedd y tir gafodd ei roi i ddisgynyddion Joseff yn ymestyn o Afon Iorddonen gyferbyn â ffynnon Jericho, drwy'r anialwch, ac i fyny o Jericho i fryniau Bethel. 2Roedd y ffin yn y de yn ymestyn o Bethel i Lws, ac yn croesi i dir yr Arciaid yn Ataroth. 3Yna roedd yn mynd i lawr i'r gorllewin i dir y Jaffletiaid, yna i Beth-choron Isaf, Geser ac at Fôr y Canoldir. 4Dyma'r tir gafodd ei roi i ddisgynyddion Joseff, sef llwythau Effraim a Manasse.

Y tir gafodd llwyth Effraim

5Y tir gafodd y teuluoedd oedd yn perthyn i lwyth Effraim: Roedd y ffin yn mynd o Atroth-adar yn y dwyrain i Beth-choron Uchaf, 6yna ymlaen at y Môr. O Michmethath yn y gogledd roedd ffin y dwyrain yn mynd heibio Taanath-Seilo i Ianoach. 7Wedyn roedd yn mynd i lawr o Ianoach i Ataroth a Naära cyn cyffwrdd Jericho a mynd ymlaen at yr Afon Iorddonen. 8O Tappŵach roedd yn mynd i gyfeiriad y gorllewin i Ddyffryn Cana, ac yna at y Môr.

Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Effraim.
9Roedd hefyd yn cynnwys rhai trefi oedd y tu mewn i diriogaeth Manasse, gyda'r pentrefi o'u cwmpas.

10Ond wnaeth llwyth Effraim ddim gyrru allan y Canaaneaid oedd yn byw yn Geser. Mae'r Canaaneaid yno yn dal i fyw gyda phobl Effraim hyd heddiw, ac yn cael eu gorfodi i weithio fel caethweision iddyn nhw.

Copyright information for CYM